Athrawiaeth yn niwinyddiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw goruchafiaeth y Pab sy'n dal taw'r Pab, yn rhinwedd ei swydd yn Esgob Rhufain, yw pennaeth uchaf yr Eglwys Babyddol ac yn meddu awdurdod llwyr ac uniongyrchol dros faterion crefyddol a moesol, yn ogystal â disgyblaeth a gweinyddiaeth eglwysig.
Dau gyfiawnhâd sydd i oruchafiaeth y Pab: safle'r Pab fel olynydd San Pedr, pennaeth yr Apostolion yn ôl y Testament Newydd; ac hanes Eglwys Rhufain. Datblygodd yr athrawiaeth hon ar drywydd hanes yr Eglwys. Mae dau prif destun sy'n disgrifio natur yr athrawiaeth a'i goblygiadau i Babyddion: Unam Sanctum (1302), bwl gan y Pab Boniffas VIII; a Chyfansoddiad Dogmataidd Cyntaf Eglwys Crist, un o ddwy ddogfen Cyngor Cyntaf y Fatican (1869–70). Dyfynodd Boniffas adnodau'r ysgrythur, er enghraifft Mathew 16:19, i brofi natur ddwyfol yr awdurdod a roddid i San Pedr gan Iesu Grist. Dadleuodd bod angen i Gristnogion ymostwng i'r eglwys sy'n etifedd i'r traddodiad apostolaidd, ac felly i'r Pab, er iachawdwriaeth.[1] Ymateb i dwf rhyddfrydiaeth a seciwlaraeth oedd pwrpas Cyngor Cyntaf y Fatican, ond ceisiodd y Pab Pïws IX hefyd i atgyfnerthu'i awdurdod crefyddol yn sgil cwymp Taleithiau'r Babaeth a cholled ei rym gwleidyddol.[2] Cadarnháodd goruchafiaeth y Pab, ac athrawiaeth gysylltiedig anffaeledigrwydd y Pab, gan y Cyngor.[3]
Mae'r pwnc hwn wrth wraidd y rhwyg rhwng yr Eglwys Babyddol a'r Eglwys Uniongred.